

Mae Windfall yn gronfa budd cymunedol ar gyfer y Canolbarth sy’n cysylltu enillion ynni adnewyddadwy ag adferiad gwledig. Darparwn gymhorthdal i brosiectau cymunedol addas gan ddefnyddio arian a ddarparwyd yn wirfoddol gan ddatblygwyr cynhyrchu ynni a datblygiadau eraill.
Cynigir cyfraniadau a dderbyniwn yn gymorthdaliadau ac yn fenthyciadau ar gyfer buddsoddiadau cymunedol yn ymyl ffermydd gwynt sy’n cyfrannu. Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn cefnogi:
- Cynhyrchu ynni adnewyddadwy;
- Effeithlonrwydd ynni / camau lleihau galw;
- Mentrau carbon isel, cydrannol, cymunedol a theithio llesol;
- Gweithgareddau addysgiadol er mwyn datblygu cynaliadwy.
Maldwyn yw’r ardal sy’n cael budd ar hyn o bryd, ac ardal cynghorau cymuned Carno, Caersws, Trefeglwys, Dwyriw, Llanbrynmair a Llanerfyl yn neilltuol.
Mae’r rhai sydd wedi cael budd yn cynnwys neuaddau pentref ac adeiladau cymunedol eraill; clybiau pêl-droed; mentrau ynni cydweithredol; sefydliadau hyfforddi, a grwpiau gweithredu er mwyn yr hinsawdd.
Chwiliwch y wefan a chysylltwch os ydych:
Yn sefydliad cymunedol â chynnig ar gyfer gwneud eich sefydliad neu’ch cymuned yn fwy cynaliadwy;
Neu’n sefydliad masnachol sy’n chwilio am ddulliau rhannu buddion ynni adnewyddadwy neu ddatblygiadau eraill.

Enw cofrestredig Windfall’ yw’r Mid Wales Community Energy Trust. Mae’n gwmni nid-er-elw a reolir gan gyfarwyddwyr gwirfoddol. Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Bwrdd!

Mae Windfall yn ddiolchgar am y bartneriaeth ers llawer dydd â’n rhoddwr presennol, Amegni Ltd, sydd biau Fferm Wynt Carno.