
Mid & North Wales Training Group Ltd (yn masnachu tan enw MYRICK TRAINING SERVICES)
Adroddiad cwblhau Myrick parthed cymhorthdal a dderbyniwyd trwy WINDFALL (Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru ), fel y’i cyflawnwyd gan Ecodyfi.
Paneli ynni haul: Er mwyn lleihau’r treuliant ynni yn swyddfeydd Myrick yn y canolbarth, mae system paneli ynni haul 6.4KWp newydd wedi’i gosod gan EOM Ltd. Gosodwyd a chomisiynwyd 16 panel ynni haul 400w ddechrau Mai 2024.
Rydym yn fodlon iawn gyda’r gosod. Ni fu fawr ddim tarfu arnom a gwelsom fuddion eisoes.
O’r dyddiad comisiynu (Mai’r 9fed 2024) hyd heddiw, rydym yn defnyddio 5.44KWh o ynni’r diwrnod, ar gyfartaledd. Ein defnydd ar gyfer yr un cyfnod 12 mis yn ôl (cyn gosod y paneli ynni haul) oedd 13.92KWh. Dengys hyn arbediad treuliant ynni beunyddiol o 8.48KWh yn nau fis cyntaf y defnyddio.



Gosod deunydd inswleiddio yn nhaflod Myrick House:
Er mwyn lleihau colli gwres trwy do Myrick House, gosodwyd 300mm ychwanegol o ddeunydd inswleiddio. Gwnaed hyn gan ACM Insulation ddydd Mawrth yr 28ain o Fai 2024. Talodd Myrick am ddyfnder ychwanegol o 100mm o ddeunydd inswleiddio i fesur, gan roi cyfanswm dyfnder o 400mm o ddeunydd.
Eto, gosod twt iawn heb fawr ddim amharu ar ein busnes.

Disgwyliwn i’r 400mm hwn o ddyfnder deunydd inswleiddio ddangos pa mor effeithlon yw o safbwynt amgylcheddol. Gwna hyn wahaniaeth ar adeg oeraf y flwyddyn trwy gadw rhagor o wres o fewn yr adeilad ac osgoi colli gwres drwy’r to.
Nick Jones Mehefin 27ain 2024
Rheolwr Cyrsiau Peirianneg C
Mid & North Wales Training Group Ltd (yn masnachu tan enw Myrick Training Services). Myrick House, Hen Domen, Trefaldwyn, Powys. SY15 6EZ.