
Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru Windfall
Mae Windfall (Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru) yn gronfa budd cymunedol ar gyfer y canolbarth. Rydym yn rhoi cymorthdaliadau i brosiectau sy’n helpu’r gymuned a’r economi leol, trwy weithrediadau ynglŷn ag ynni, newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd. Rhoddir yr arian inni’n wirfoddol gan ddatblygwyr isadeiledd cynhyrchu ynni ac arall.
Cynigir y rhoddion a dderbyniwn yn gymorthdaliadau ac yn fenthyciadau ar gyfer buddsoddiadau cymunedol yn ymyl ffermydd gwynt neu ddatblygiadau eraill. Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn helpu:
- Cynhyrchu ynni adnewyddadwy;
- Camau effeithlonrwydd ynni neu leihau’r galw amdano;
- Mentrau carbon isel, cydranedig, cymunedol a theithio llesol;
- Gweithgareddau addysgiadol er mwyn datblygu cynaliadwy.
Rhaid i ymgeiswyr fod:
- Yn sefydliad cyfansoddedig (gan gynnwys cymdeithasau anghorfforedig syml) â chyfrif banc;
- Ddim yn rhannu elw i fuddiannau preifat;
- Fel arfer, bydd cymhorthdal yn 60%, o leiaf, o unrhyw becyn cymhorthdal/benthyciad; ond gall fod cymaint â 100%. Croesewir ariannu ar y cyd â ffynonellau eraill. Y cymhorthdal mwyaf yw £30,000 yn ardal cynghorau cymuned Carno, Caersws, Trefeglwys, Dwyriw, Llanbrynmair a Llanerfyl a £10,000 yng ngweddill Maldwyn.

Rowndiau Windfall a dyddiadau cau – gall y dyddiadau hyn newid.
Rownd 1 | Rownd 2 | Rownd 3 | |
---|---|---|---|
Galwad am geisiadau | 17 Ionawr 2025 | 22 Ebrill 2025 | 11 Awst 2025 |
Dyddiad cau | 17 Mawrth 2025 | 16 Mehefin 2025 | 20 Hydref 2025 |
Penderfyniad at ymgeiswyr erbyn | 14 Ebrill 2025 | 16 Gorffennaf 2025 | 19 Tachwedd 2025 |
Dylid e-bostio ceisiadau ac ymholiadau at yr Ysgrifenyddiaeth – grants@windfall.wales. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar y dudalen Cysylltu i holi am grantiau.