• Skip to primary navigation
  • Skip to main content

Windfall

  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Prosiectau
  • Ymgeisio
  • Cysylltu
  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Prosiectau
  • Ymgeisio
  • Cysylltu
  • English
Derwenlas Community Centre

wind turbine

Am Windfall

Mae Windfall (Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru) yn gronfa budd cymunedol ar gyfer y canolbarth. Rydym yn rhoi cymorthdaliadau i brosiectau sy’n helpu’r gymuned a’r economi leol, trwy weithrediadau ynglŷn ag ynni, newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd. Rhoddir yr arian inni’n wirfoddol gan ddatblygwyr isadeiledd cynhyrchu ynni ac arall.

Cynigir y rhoddion a dderbyniwn yn gymorthdaliadau ac yn fenthyciadau ar gyfer buddsoddiadau cymunedol yn ymyl ffermydd gwynt neu ddatblygiadau eraill. Mae gennym ddiddordeb neilltuol mewn helpu:

  • Cynhyrchu ynni adnewyddadwy;
  • Camau effeithlonrwydd ynni neu leihau’r galw amdano;
  • Mentrau carbon isel, cydranedig, cymunedol a theithio llesol;
  • Gweithgareddau addysgiadol er mwyn datblygu cynaliadwy.

Enw cofrestredig Windfall yw Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru. Mae’n gwmni nid-er-elw a reolir gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr gwirfoddol. Cysylltwch os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â ni! Y Cyfarwyddwyr presennol yw:

  • Andy Bull (Cadeirydd), cyn-gynlluniwr economaidd ar gyfer Cyngor Sir Powys a chyd-sylfaenwr sefydliadau ynni cymunedol arloesol;
  • Andy Rowland (Ysgrifennydd Cwmni), Cyn-brif Weithredwr Ecodyfi (Biosffer Dyfi, bellach);
  • Rob Gwillim, ymgynghorydd ynni adnewyddadwy sy’n gweithio ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar hyn o bryd;
  • Graeme Lane, Rheolwr Gwasanaeth Datblygu Asedau Cyngor Sir Ceredigion, â chefndir mewn tai, ynni ac adfywio.

Bu Windfall yn weithredol ers 2005. Cysylltwyd ag asiantaeth ynni blaenorol Powys, sef Ymddiriedolaeth Ynni Canolbarth Cymru, ac Ecodyfi yn flaenorol ar gyfer gweinyddiaeth. O 2025 ymlaen mae Asiantaeth Ynni Severn Wye yn gweinyddu’r broses gymorthdaliadau ac y mae Ysgrifennydd y Cwmni yn delio â materion eraill.

Ar gyfer cynhyrchwyr ynni a chwmnïau cyfleustodau sy’n dymuno dangos eu hymrwymiad ariannol i’r cymunedau y gweithredant ynddynt, mae Windfall yn cynnig cynllunio, rheoli a chyflawni buddion cymunedol ar gyfer cynaliadwyedd.

Maldwyn yw’r ardal sy’n cael budd ar hyn o bryd, ac ardaloedd cynghorau cymunedol Carno, Caersws, Trefeglwys, Dwyriw, Llanbrynmair a Llanerfyl yn neilltuol. Hyn oherwydd mai Amegni Ltd, perchennog Fferm Wynt Carno, yw ein rhoddwr.

Hoffem glywed, hefyd, gan ddarparwyr sector cyhoeddus a dyngarol cyfalaf buddsoddi a allent fod â diddordeb mewn dod yn bartneriaid â ni trwy gydariannu prosiectau cymunedol mwy. Darllenwch ragor am roddion a chydweithrediadau yma.

Cysylltwch

Cyfeiriad cofrestredig:
d/o Biosffer Dyfi, Ystafell 209, Y Plas, Machynlleth SY20 8ER
Gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.

Gwybodaeth

  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Ymgeisio
  • Cysylltu

Copyright © 2025 Windfall - The Mid Wales Community Energy Trust

Website designed and hosted by Mid Wales Design