• Skip to primary navigation
  • Skip to main content

Windfall

  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Prosiectau
  • Ymgeisio
  • Cysylltu
  • English
  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Prosiectau
  • Ymgeisio
  • Cysylltu
  • English

Darpar roddwyr a phartneriaid

Yn gyffredinol mae datblygwyr yn rhoi i gronfeydd budd cymunedol lleol cyffredinol (a reolir yn aml trwy gynghorau tref a chymuned) yn ogystal ag i Windfall. Yr hyn sy’n wahanol am Windfall yw bod yr arian yn benodol ar gyfer grymuso bwriad y datblygwyr eu hunain i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd trwy weithredu cymunedol.

Fel arfer, mae rhoddwyr yn cytuno â’r Awdurdod Cynllunio perthnasol, ac yna’n cyd-greu cytundeb â Windfall, hefyd, ynghylch y manylion. Cawsom gyfraniadau gan weithredwyr safleoedd tirlenwi yn ogystal â chan gynhyrchwyr ynni yn y gorffennol.

Maldwyn yw’r ardal sy’n cael budd ar hyn o bryd, oherwydd ein rhoddwr presennol yw Amegni Ltd, perchennog Fferm Wynt Carno. Yr ydym, fodd bynnag, ar gael i ddatblygwyr addas yn unrhyw le yn y canolbarth, felly cysylltwch os ydych yn bwriadu buddsoddi yn yr ardal ehangach hon.

Datblygwyd Fferm Wynt Carno yn ddau gam. Amegni biau’r ddau ddatblygiad yn awr, ond yn wreiddiol cyfeiriwyd yr arian budd cymunedol o ‘Carno 1’ i Windfall trwy Gyngor Sir Powys.

Mae Amegni yn anarferol yn ei fod tan berchnogaeth a rheolaeth leol, sef y ffermwyr sydd â rhan ynddo. Mae hyn yn cynyddu’r budd ariannol i’r economi lleol a hyfywedd y gymuned amaethyddol yn fawr.

Mae Perchnogaeth Gymunedol neu ‘Ar y Cyd’ yn wahanol fodel sy’n cynyddu budd lleol i’r eithaf, ac fel arfer yn cynnwys cynnig prynu cyfranddaliadau. Gall Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru helpu datblygwyr a chyrff cymunedol wrth greu’r fath gytundebau.

Mae Windfall yn helpu’r canolbarth i fod yn fwy cydnerth ac yn llai llygrol, ar y cyd â chyrff llawer mwy fel y rhai sydd â rhan yn ‘Tyfu Canolbarth Cymru’.

Cysylltwch

Cyfeiriad cofrestredig:
d/o Biosffer Dyfi, Ystafell 209, Y Plas, Machynlleth SY20 8ER
Gallwch gysylltu â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen gysylltu.

Gwybodaeth

  • Hafan
  • Gwybodaeth
  • Ymgeisio
  • Cysylltu

Copyright © 2025 Windfall - The Mid Wales Community Energy Trust

Website designed and hosted by Mid Wales Design