

Ariannodd Windfall ddarparu llenni thermol ledled y Neuadd yn Awst 2023 â chymhorthdal o
£4,488. Mae’r rhain wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r defnyddwyr yn ogystal â lleihau’r angen i
gynhesu’r Neuadd. Gellir cadw peth gwres o’r naill ddefnydd i’r llall trwy adael y llenni ar gau, a chollir llai o wres i’r tu allan yn ystod digwyddiadau’r hwyr.
Mae’r sain yn well o lawer. Yr oedd llawr a waliau caled yn gwneud perfformio’n anodd gynt, ac y mae partïon plant yn llai o boen clust nawr. Mae pobl yn gwneud sylwadau ynghylch y golwg cymen, ac y mae medru tywyllu’n well yn ei wneud yn bosibl dangos ffilmiau.
Adroddiad prosiect i Windfall ynghylch gwelliannau ynni fel yn Awst 2024
Mae Pwyllgor y Ganolfan yn ddiolchgar iawn i Windfall (Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru) ac i Ecodyfi am eu cefnogaeth, yn ariannol ac fel arall. Bu’r Ganolfan ar sawl blwyddyn o daith gwella ei chyfleusterau, profiad defnyddwyr ac effeithlonrwydd defnydd ynni.

Mae hyn yn parhau. Mae’r camau’n cynnwys:
- Archwiliad ac adroddiad ynni am ddim gan Giulio Mescia o Ecodyfi yng Ngorffennaf 2019 trwy raglen Cymunedau Cynaliadwy Cymru Llywodraeth Cymru;
- Talu am lenni thermol gan Windfall yn Awst 2023, gan gostio £4,488;
- Gosod gwydro eilaidd yn Ionawr 2024, gan gostio £15,594 – talwyd am y cyfan gan Windfall, eto;
- Gosod aráe a batri ffotofoltaig ynni haul yn Awst-Tachwedd 2024 gan ddefnyddio £16,038 o gymhorthdal Ffyniant Bro Llywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys.
- Cynhelir ymchwiliad i ddichonoldeb newid y ffynhonnell wres o olew i bwmp gwres o’r awyr yng ngwanwyn 2025, yn dilyn gwerthusiad dechreuol o’n haráe ynni haul ac o’r pwmp gwres a osodwyd yn Neuadd Bentref Cwmllinau yn ystod 2024.
Mae Canolfan Cymunedol Derwenlas yn bodoli i well amgylchiad bywyd preswylwyr Derwenlas, Glasbwll a’r cyffiniau, yn bennaf trwy ddarparu neuadd gymuned â chyfleusterau a gweithgareddau ar gyfer hamdden, llesiant cymdeithasol ac addysg. Mae’r adeilad, a fu’n ysgol bentrefol yn wreiddiol, yn eiddo i’n sefydliad cymunedol ac yn lleoliad poblogaidd a logir gan grwpiau a phreswylwyr lleol ar gyfer amryw weithgareddau. Mae ein pwyllgor yn trefnu gweithgareddau rheolaidd sy’n dwyn y gymuned ynghyd. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gwella cyfleusterau’r neuadd a’r gegin yn fawr, ac wedi gwella ein defnydd o ynni trwy’r camau canlynol.
Llenni thermol
Gwydro eilaidd
Yn dilyn cael dau ddyfynbris cystadleuol, gosodwyd gwydro eilaidd gan Storm Windows yn Ionawr 2024, ar gost o £15,594 a ddarparwyd gan Windfall. Mae Storm yn arbenigo mewn adeiladau hanesyddol, a bu modd iddynt ddygymod â siapiau anarferol rhai o’r ffenestri.
Bu’n rhaid i’r Pwyllgor drafod â Scottish Power ynghylch cebl cyflenwi a fuasai wedi amharu ar osod y gegin. Bu iddynt gytuno i hynny yn y diwedd, gan ailgyfeirio’r cebl yn rhad ac am ddim.

Da gan y Pwyllgor wybod y bydd angen llai o olew i dwymo’r Neuadd y gaeaf hwn, gan fod hyn yn helpu inni dalu ein ffordd ac yn cyfrannu at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae’r gwydro eilaidd wedi’i osod cystal fel nad yw’r mwyafrif o ddefnyddwyr yn sylwi arno.
Penny Rowland
Trysorydd