
Yn bwyllgor ac yn bentref rydym yn ffodus iawn i dderbyn arian gan Windfall (Ymddiriedolaeth Ynni Cymunedol Canolbarth Cymru), Y Loteri Fawr (Pobl a Lleoedd) a Llywodraeth Cymru (Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol) i’n caniatáu i gwblhau gwaith adnewyddu mawr ei angen ar ein neuadd bentref.
Bach o ddefnydd fu ar y neuadd o’r blaen. Yr oedd yn llaith ac yn oer iawn, ag arni angen llawer o waith.
Ail-agorwyd Neuadd y Pentref ar 07/07/2024 wedi’r adnewyddu. Mae’r cymorthdaliadau a gawsom wedi caniatáu inni inswleiddio’r neuadd (a bu mawr angen hynny), cegin newydd, paneli ynni haul, system dwymo newydd ac ailwampio cyffredinol y bu angen mawr amdano.
Mae’r neuadd nawr yn ganolfan brysur ar gyfer ein cymuned, ac rydym wedi trefnu cynnal llawer o ddigwyddiadau a sesiynau rheolaidd yno. Bu’n boblogaidd iawn, hyd yn hyn, ,a’r gymuned leol a’r cyffiniau.
Kelly Richards, Cydlynydd Prosiect
07/09/2024



